Cyhoeddwyd 03/10/2008

Dathlu 20 Mlynedd

Dathlu 20 MlyneddPe bai’r pregethwr un Sul yn herio’i gynulleidfa a gofyn i bawb oedd yn bresennol yn y gwasanaeth fore Sul, Medi’r 18fed 1988, i sefyll ar eu traed tybed sawl un fedrai ymateb yn syth. Wel, pan ofynnwyd i ni yn Y Crwys y Sul o’r blaen chafodd neb drafferth i ymateb. Dim o gwbwl.

Roedd pawb a fu yno yn y gwasanaeth yn 1988 yn cofio’r misoedd o lafurio a pharatoi cyn symud o’r hen gapel yn Heol-y-Crwys i mewn i’r adeilad newydd yn Richmond Road. Safodd tua hanner y gynulleidfa ar ei thraed. Dathlu 20 MlyneddWedyn, fe ofynnwyd i bawb a ymunodd â’r eglwys wedi Medi 1988 i sefyll a dyna hanner arall y gynulleidfa, gan gynnwys holl blant yr Ysgol Sul, wrth gwrs, ar eu traed.

Cawsom wasanaeth i ddathlu ugain mlynedd o addoli yn yr adeilad modern, golau, clyd a chyfforddus hwn. Cynrychiolwyd holl agweddau ar waith yr eglwys gyda Mrs. Non Jones (Y Cylch Cymorth), Mrs. Ann Parry (Y Gorlan) a Mrs. Barbara Evans (Y Grŵp Merched) yn ledio’r emynau. Darllenwyd o’r Hen Destament gan Robin Jones (Y Gymdeithas Ddrama) ac o’r Testament Newydd gan Dafydd Evans (un o’r cyntaf i’w bedyddio yn yr adeilad newydd). Gweddïwyd gan y Dr. J. Gwynfor Jones (Ysgol Sul yr Oedolion) ac fe ganodd Côr Plant yr Ysgol Sul eu cyfarchion dan arweiniad Siân Griffiths a Bethan Phillips yn cyfeilio.

Daniel RoddickYn ogystal, darllenwyd englyn o waith Geraint Williams ac fe ganwyd unawd gan Daniel Roddick – y ddau ymhlith y cyntaf i’w derbyn yn gyflawn aelodau wedi’r symud. Cafwyd adroddiad difyr gan y cyn-Ysgrifennydd, Mr. Gwyn Jones, yn sôn am helyntion y prynu a’r gwerthu a’r symud i mewn, a soniodd Gwyn Davies (y pensaer) am y newidiadau a fu er mwyn i’r adeilad ateb gofynion y gynulleidfa.

Glyn Tudwal JonesDerbyniwyd cyfarchion y Cyfundeb yn anerchiad y Parch. Ifan Roberts a thraddododd ein gweinidog, y Parch. Glyn Tudwal Jones, bregeth fer wedi ei hysbrydoli gan yr adnod: Ai gwir yw y preswylia Duw ar y ddaear? Wele, ni all y nefoedd na nef y nefoedd dy gynnwys: pa faint llai y tŷ hwn a godais! ... Bydded dy lygaid nos a dydd ar y tŷ yn dywedaist amdano ‘Fy enw a fydd yno’ (1 Brenhinoedd 8 adnod 27).

Dathlu oedd ein bwriad ond fe gawsom fwy na hynny. Cawsom gyfle i feddwl am ein defnydd o’r adeilad yn yr unfed ganrif ar hugain, cyfle i feddwl am le yr adeilad yn ein tystiolaeth a chyfle i ail-ymgysegru ein hunain yn y gwaith. Roedd yn fore heulog braf a braf oedd cael bod yn rhan o’r dathlu.

Dyma’r englyn a gyfansoddodd Geraint ar gyfer yr amgylchiad:

Eglwys y Crwys

Crud yw hwn i blant Caerdydd – yn gyfoeth
I’w trannoeth a’u trennydd;
Gwaddol sy’n ffiol o ffydd,
Yn heulwen ar eu hewlydd.

Ros Williams

Yn ôl i'r hafan